Skip to content

Wylfa – Inspection ID: 50857

Executive summary

Date(s) of inspection:

  • September 2022

Aim of inspection

Planned LC inspection to gain assurance that incidents on the site are notified, recorded, investigated and reported by the licensee.  Organisational learning, including learning from incidents on the site, as well as from other relevant external sources make a key contribution to the continual improvement of any effective safety regime.

Subject(s) of inspection

  • LC7 - Incidents on the site - Rating - Green

Key findings, inspector's opinions and reasons for judgement made

This inspection examined the adequacy of Magnox Limited’s (ML) arrangements and their implementation on the Wylfa site for compliance with Licence Condition 7 (Incidents on the site).  I focused on Wylfa’s arrangements to ensure that incidents are notified, recorded, investigated, and reported and that learning is gained.  I inspected the current implementation of the arrangements, event trends and lessons learned.  This included primary implementation document PD-016 (Business Improvement) and supporting document S-495 (Categorisation and notification of events). This inspection was completed alongside a planned LC32 inspection (IIS-50859) and targeted waste management events at the Wylfa site reported over the last 12-month period. I utilised ONR guidance NS-INSP-GD-007 Issue 6.1; and ONR-OPEX-GD-001 Revision 7 during my inspection. This inspection was conducted jointly with Natural Resources Wales (NRW) supported by the Environment Agency (EA).

Conclusion

The purpose of LC7 is to ensure that incidents on the site are notified, recorded, investigated, and reported by the licensee. Based on the evidence examined it is my judgement that ML is effectively implementing arrangements for complying with LC7.  I am satisfied that this inspection merits an IIS rating green (no formal action) against LC7.

Crynodeb gweithredol

Pwrpas yr Arolygiad

Arolygiad Amodau Trwydded (LC) wedi’i drefnu oedd hwn a gynhaliwyd i gael sicrwydd bod y trwyddedai yn rhoi hysbysiad o ddigwyddiadau ar y safle, yn eu cofnodi, yn ymchwilio iddynt ac yn adrodd arnynt. Mae dysgu sefydliadol, gan gynnwys dysgu o ddigwyddiadau ar y safle, yn ogystal ag o ffynonellau allanol perthnasol eraill, yn gwneud cyfraniad allweddol o ran gwella unrhyw drefn ddiogelwch effeithiol yn barhaus.

Pwnc/Pynciau’r Arolygiad

Roedd y gweithgareddau canlynol yn destun yr arolygiad hwn
  • LC7 - Digwyddiadau ar y safle - Gwyrdd

 Prif Ganfyddiadau

Roedd yr arolygiad hwn yn edrych ar ba mor ddigonol oedd trefniadau Magnox Limited (ML) a’u gweithrediad ar safle Wylfa o ran cydymffurfio ag Amod Trwydded 7 (Digwyddiadau ar y safle). Canolbwynt fy sylw oedd trefniadau Wylfa o ran sicrhau y rhoddir hysbysiad o ddigwyddiadau a’u bod yn cael eu cofnodi, y cynhelir ymchwiliad iddynt ac yr adroddir arnynt, a bod dysgu yn deillio ohonynt. Bûm yn arolygu gweithrediad cyfredol y trefniadau, tueddiadau o ran digwyddiadau a’r gwersi a ddysgwyd. Roedd hyn yn cynnwys y brif ddogfen weithredu PD-016 (Gwella Busnes) a’r ddogfen ategol S-495 (Categorïau a hysbysiad o ddigwyddiadau). Cwblhawyd yr arolygiad hwn ochr yn ochr ag arolygiad wedi’i drefnu LC32 (IIS-50859) ac roedd yn targedu digwyddiadau rheoli gwastraff ar safle Wylfa yr adroddwyd arnynt dros y 12 mis diwethaf. Roeddwn i wedi defnyddio canllawiau NS-INSP-GD-007 ONR Rhifyn 6.1; ac ONR-OPEX-GD-001 Diwygiad 7 yn ystod fy arolygiad. Cynhaliwyd yr arolygiad hwn ar y cyd â Cyfoeth Naturiol Cymru, gyda chefnogaeth Asiantaeth yr Amgylchedd.

Dyfarniadau a wnaed

Pwrpas LC7 yw sicrhau bod y trwyddedai yn rhoi hysbysiad o ddigwyddiadau ar y safle, yn eu cofnodi, yn ymchwilio iddynt ac yn rhoi adroddiad arnynt. Ar sail y dystiolaeth a astudiwyd, fy marn i yw bod ML yn rhoi trefniadau ar waith yn effeithiol ar gyfer cydymffurfio â LC7. Rydw i’n fodlon bod yr arolygiad hwn yn haeddu sgôr IIS gwyrdd (dim camau ffurfiol) yn erbyn LC7.