Skip to content

Wylfa - Inspection ID: 50859

Executive summary

  • Inspection date(s): 21/09/2022

Purpose of inspection

Planned LC inspection to gain assurance that both the rate of production of radioactive waste, and the amount of radioactive waste on licensed nuclear sites is minimised and at all times adequately controlled. Joint inspection with NRW (supported by EA)

Subject(s) of Inspection

The following actives were the subject of this inspection:
  • LC 32 - Accumulation of radioactive waste (RAG rating: Green)

Key findings

This inspection examined the adequacy of Magnox Limited’s (ML) arrangements and their implementation on the Wylfa site for compliance with Licence Condition 32 (Accumulation of Radioactive Waste). LC 32 requires the licensee to make and implement adequate arrangements for minimising so far as is reasonably practicable the rate of production and total quantity of radioactive waste accumulated on the site at any time and for recording the waste so accumulated. I focussed on a cross site inspection of the implementation of arrangements to characterise, segregate, process and store radioactive waste at Wylfa. This included proposed radioactive waste management strategies and their alignment with decommissioning strategies, and reference to primary implementation document PD-026 (Management of Waste) and supporting documents identified in Wylfa’s compliance matrix (F-870). This inspection was completed alongside a planned LC7 inspection (IIS-50857) which sampled waste related events over the previous 12 month period. I utilised ONR guidance NS-INSP-GD-032 Revision 7; and NS-TAST-GD-024 Issue7.1 during my inspection. This inspection was conducted jointly with Natural Resources Wales (NRW) supported by the Environment Agency (EA).

Judgements made

LC 32 requires the licensee to make and implement adequate arrangements for minimising so far as is reasonably practicable the rate of production and total quantity of radioactive waste accumulated on the site at any time and for recording the waste so accumulated. I am satisfied that this inspection merits an IIS rating green (no formal action) against LC 32.

Crynodeb gweithredol

Pwrpas yr Arolygiad

Arolygiad Amodau Trwydded (LC) wedi’i drefnu oedd hwn a gynhaliwyd i gael sicrwydd bod cyfradd cynhyrchu gwastraff ymbelydrol, a swmp y gwastraff ymbelydrol ar safleoedd niwclear trwyddedig, yn cael ei gyfyngu i’r eithaf a’i reoli’n ddigonol bob amser. Arolygiad ar y cyd â Cyfoeth Naturiol Cymru (gyda chefnogaeth Asiantaeth yr Amgylchedd)

Pwnc/Pynciau’r Arolygiad

Roedd y gweithgareddau canlynol yn destun yr arolygiad hwn
  • LC32 - Croniadau o wastraff ymbelydrol - Gwyrdd

 Prif Ganfyddiadau

Roedd yr arolygiad hwn yn edrych ar ba mor ddigonol oedd trefniadau Magnox Limited (ML) a’u gweithrediad ar safle Wylfa o ran cydymffurfio ag Amod Trwydded 32 (Croniadau o Wastraff Ymbelydrol). Mae LC32 yn mynnu bod y trwyddedai yn gwneud ac yn gweithredu trefniadau digonol i leihau, cymaint ag y bo’n rhesymol ymarferol, y gyfradd cynhyrchu gwastraff ymbelydrol a chyfanswm gwastraff o'r fath sy’n cronni ar y safle ar unrhyw adeg ac ar gyfer cofnodi’r gwastraff sydd wedi cronni felly. Canolbwynt fy sylw oedd cynnal arolygiad ar draws y safle o weithrediad trefniadau i bennu nodweddion, didoli, prosesu a storio gwastraff ymbelydrol yn Wylfa. Roedd hyn yn cynnwys strategaethau rheoli gwastraff ymbelydrol arfaethedig a sut roeddynt yn cyd-fynd â strategaethau datgomisiynu, a chyfeirio at y brif ddogfen weithredu PD-026 (Rheoli Gwastraff) a’r dogfennau ategol a nodwyd ym matrics cydymffurfio Wylfa (F-870). Cwblhawyd yr arolygiad hwn ochr yn ochr ag arolygiad LC7 wedi’i drefnu (IIS-50857) a oedd yn samplu digwyddiadau cysylltiedig â gwastraff dros y 12 mis blaenorol. Roeddwn i wedi defnyddio canllawiau NS-INSP-GD-032 ONR Diwygiad 7; ac NS-TAST-GD-024 Rhifyn 7.1 yn ystod fy arolygiad. Cynhaliwyd yr arolygiad hwn ar y cyd â Cyfoeth Naturiol Cymru, gyda chefnogaeth Asiantaeth yr Amgylchedd.

Dyfarniadau a wnaed

Mae LC 32 yn mynnu bod trwyddedai yn gwneud ac yn gweithredu trefniadau digonol i leihau, cymaint ag y bo’n rhesymol ymarferol, y gyfradd cynhyrchu gwastraff ymbelydrol a chyfanswm gwastraff o'r fath sy’n cronni ar y safle ar unrhyw adeg ac ar gyfer cofnodi’r gwastraff sydd wedi cronni felly. Rydw i’n fodlon bod yr arolygiad hwn yn haeddu sgôr IIS gwyrdd (dim camau ffurfiol) yn erbyn LC32.