Skip to content

Step 1 GDA statement for the Rolls-Royce SMR

3 April, 2023

In April 2022, the Office for Nuclear Regulation (ONR), together with the Environment Agency and Natural Resources Wales, began Step 1 of the Generic Design Assessment (GDA) for the Rolls-Royce SMR design. During the last 12 months, we have undertaken activities to initiate and establish the project and to prepare for technical assessment in later steps. These activities are defined within our GDA guidance document, Guidance to Requesting Parties (ref. [1]).

Rolls-Royce SMR Limited is the Requesting Party (RP) for the GDA. It is a recently formed company created to design and build the Rolls-Royce SMR (although design work started within Rolls-Royce plc in 2015). Its design is a 470 MWe pressurised water reactor which uses well-established technology in operation all over the world. Innovation comes in the form of its modular approach to construction which would see many components built in factory conditions and assembled on site. The design is being developed during the GDA and in parallel with the RP's safety, security and safeguards (and environmental) cases (referred to collectively as the 'E3S' case). Our assessment will be the first time that the design has been subject to regulatory scrutiny.

During Step 1 we have undertaken more than 200 engagements and assessed more than 40 submissions. The information submitted (ref. [2]) met all the requirements from our guidance and demonstrated a good understanding of UK practice and regulatory expectations. We take confidence from these submissions that the RP has a clear view of what is needed to progress through the GDA and how it will justify its design.

Rolls-Royce SMR Limited has confirmed that it intends to complete a three step GDA with the objective of receiving a Design Acceptance Confirmation (DAC), if judged acceptable by ONR. The overall duration for GDA is expected to be 53 months, completing in August 2026. Step 2 is expected to take 16 months. Progression from Step 2 to 3 is subject to the RP securing additional funding during Step 2.

We have agreed a defined GDA scope with the RP (ref. [3]). This is consistent with previous GDAs and Rolls-Royce SMR Limited's stated objective of receiving a DAC. The GDA scope defines the generic plant and layout and includes all systems, structures and components that are identified as being important to safety, security and safeguards, all modes of operation and all stages of the plant lifecycle. Where aspects are declared as being of reduced or out of scope, we are content that these are justified and appropriate. Overall, we are satisfied that the agreed GDA scope will allow us to undertake a meaningful assessment of the generic design.

The E3S case is being developed holistically, based on documented strategies and using a hierarchical Claim, Argument and Evidence (CAE) approach. The scope of the E3S case is intended to align with relevant international guidance and covers all the technical topics we consider. We are satisfied that the proposed E3S approach is logical, suitably structured and will give the RP means to control the development of its design. We recognise the early production of clear strategies and the holistic approach to be good practices adopted by the RP.

We have agreed a submission schedule with the RP, which includes the submission of more than 500 documents during Step 2 (ref. [4]). We are content that this aligns with our assessment plans, the agreed GDA scope and the RP's declared schedule for GDA. The RP has stated it has sufficient resource to deliver the submissions identified for Step 2 to the agreed schedule. Given the outstanding need to secure funding beyond Step 2 activities, the schedule for submissions for Step 3 has not been agreed at this time.

In line with our guidance, the RP undertook a self-assessment and review of its own readiness to proceed to Step 2. The RP also undertook a review of its organisational capacity and capability and a gap analysis of its planned submissions to support Step 2, as part of its wider E3S case, against regulatory expectations. We judge that the process undertaken by the RP was reasonable, proportionate and sufficiently robust for this step of GDA. The overall conclusion of the RP's readiness review is that it considers itself ready to begin Step 2, subject to completion of some improvement actions.

The actions identified by the RP include improvements in its organisation, arrangements and its capacity and capability. We are content that the self-identified actions accurately reflect the outcomes from the RP's readiness review and are consistent with our work during the step. We will review progress and hold the RP to account on the delivery of these actions during Step 2.
Full details for the basis of this statement are summarised in our Step 1 Summary Report (ref. [5]).

In summary:

The RP has completed all the requirements for Step 1 from our guidance;
Interactions with the RP throughout Step 1 have been professional and constructive, and we have confidence that this will continue;
The RP has made good progress in developing its organisation and arrangements to support GDA, with clear evidence of improvements;
The agreements necessary to undertake the GDA are in place, or have developed sufficiently for this point in the project with clear plans for further development;
The RP has demonstrated a good understanding of our regulatory expectations and has confidence that these can be met by its design and E3S case;
During the course of Step 1 we have improved our understanding of the generic Rolls-Royce SMR design and E3S case and have used this to inform our planning for further assessment activities; and
We, and the RP, are ready to proceed to Step 2 of the GDA.
We therefore conclude that the Rolls-Royce SMR design can proceed to Step 2 of the GDA.

References
  1. ONR, New Nuclear Power Plants: Generic Design Assessment Guidance to Requesting Parties, ONR-GDA-GD-006, Revision 0, October 2019 
  2. Rolls-Royce SMR Limited, Master Document Submission Lists and Document List, SMR0001724, Issue 7, February 2023. (Record ref. 2023/8388).
  3. Rolls-Royce SMR Limited, Rolls-Royce SMR Generic Design Assessment Scope, SMR0002183, Issue 2, January 2023. (Record ref. 2023/7807).
  4. Rolls-Royce SMR Limited, GDA Step 2 Submission Schedule, 2 February 2023. (Record ref. 2023/8546).
    ONR, Project Assessment Report - Generic Design Assessment of the Rolls-Royce SMR – Step 1
  5. Summary, ONRW-2019369590-1908, Rev. 0, April 2023

Datganiad GDA

Ym mis Ebrill 2022, dechreuodd y Swyddfa Rheoleiddio Niwclear (ONR, sef Office for Nuclear Regulation), ynghyd ag Asiantaeth yr Amgylchedd a Chyfoeth Naturiol Cymru, Gam 1 o Asesiad Dyluniad Generig (GDA, sef Generic Design Assessment) o ddyluniad Adweithydd Modiwlar Bach Rolls-Royce (sef Rolls-Royce SMR). Yn y 12 mis ers hynny rydym wedi ymgymryd â gweithgareddau i gychwyn a sefydlu'r prosiect ac i baratoi ar gyfer asesiad technegol mewn camau diweddarach. Mae'r gweithgareddau hyn wedi'u diffinio yn ein dogfen ganllaw GDA, Canllawiau i Ymgeiswyr (cyf. [1]).

Rolls-Royce SMR Limited yw ymgeisydd y GDA hwn. Mae'n gwmni a ffurfiwyd yn ddiweddar i ddylunio ac adeiladu'r Rolls-Royce SMR (er i waith dylunio ddechrau yn Rolls-Royce plc yn 2015). Adweithydd dŵr dan bwysau 470 MWe yw'r dyluniad, gan ddefnyddio technoleg sydd wedi'i hen sefydlu ac sydd ar waith ledled y byd. Ceir arloesedd yn y dull modiwlar o'i adeiladu - gyda llawer o gydrannau'n cael eu hadeiladu mewn amodau ffatri a'u cydosod ar y safle. Mae'r dyluniad yn cael ei ddatblygu yn ystod y GDA ac yn gyfochrog â gwaith ar achosion diogelwch a mesurau diogelu (ac amgylcheddol) gan yr ymgeisydd (cyfeirir at hyn yn ei gyfanrwydd fel achos 'E3S'). Ein hasesiad ni fydd y tro cyntaf i'r dyluniad fod yn destun craffu rheoleiddiol.

Yn ystod Cam 1 rydym wedi cynnal mwy na 200 o ymgysylltiadau ac wedi asesu mwy na 40 o gyflwyniadau. Mae'r wybodaeth a gyflwynwyd (cyf. [2]) wedi bodloni holl ofynion ein canllawiau ac wedi dangos dealltwriaeth dda o arferion y DU a disgwyliadau rheoleiddiol. Rydym yn hyderus, yn sgil y cyflwyniadau hyn, fod gan yr ymgeisydd farn glir o'r hyn sydd ei angen i symud ymlaen drwy'r GDA, a sut y bydd yn cyfiawnhau ei ddyluniad.

Mae Rolls-Royce SMR Limited wedi cadarnhau ei fod yn bwriadu cwblhau GDA tri cham gyda'r nod o gael Cadarnhad o Gymeradwyo Dyluniad (DAC, sef Design Acceptance Confirmation), os yw'r ONR yn barnu ei fod yn dderbyniol. Disgwylir mai 53 mis fydd hyd y GDA yn ei gyfanrwydd, gan ddod i ben ym mis Awst 2026. Disgwylir i gam 2 gymryd 16 mis. Mae symud ymlaen o Gam 2 i 3 yn amodol ar yr ymgeisydd yn sicrhau cyllid ychwanegol yn ystod Cam 2.

Rydym wedi cytuno ar gwmpas GDA diffiniedig gyda'r ymgeisydd (cyf. [3]). Mae hyn yn gyson â GDAs blaenorol ac amcan datganedig Rolls-Royce SMR Limited o gael DAC. Mae cwmpas y GDA yn diffinio'r offer a'r cynllun generig ac yn cynnwys yr holl systemau, strwythurau a chydrannau y nodir eu bod yn bwysig i ddiogelwch a mesurau diogelu, pob dull gweithredu, a phob cam o gylch bywyd y weithfa. Lle caiff agweddau eu datgan fel rhai llai perthnasol i'r cwmpas, neu y tu allan i'r cwmpas, rydym yn fodlon bod hyn yn gyfiawn ac yn briodol. Ar y cyfan, rydym yn fodlon y bydd cwmpas y GDA y cytunwyd arno yn ein galluogi i gynnal asesiad ystyrlon o'r cynllun generig.

Mae achos E3S yn cael ei ddatblygu'n gyfannol, yn seiliedig ar strategaethau wedi'u dogfennu a chan ddefnyddio dull hierarchaidd o honiad, dadl a thystiolaeth (CAE, sef claim, argument and evidence). Bwriedir i gwmpas achos E3S alinio â chanllawiau rhyngwladol perthnasol a chwmpasu'r holl bynciau technegol yr ydym yn eu hystyried. Rydym yn fodlon bod y dull E3S arfaethedig yn rhesymegol, wedi'i strwythuro'n addas, ac y bydd yn rhoi modd i'r ymgeisydd reoli datblygiad ei ddyluniad. Nodwn fod strategaethau clir wedi'u cynhyrchu'n gynnar a'r ymagwedd gyfannol, a bod y rhain yn arferion da a fabwysiadwyd gan yr ymgeisydd.

Rydym wedi cytuno ar amserlen gyflwyno gyda'r ymgeisydd, sy'n cynnwys cyflwyno mwy na 500 o ddogfennau yn ystod Cam 2 (cyf. [4]). Rydym yn fodlon bod hyn yn cyd-fynd â'n cynlluniau asesu, cwmpas y GDA y cytunwyd arno, ac amserlen ddatganedig yr ymgeisydd ar gyfer y GDA. Mae'r ymgeisydd wedi datgan bod ganddo ddigon o adnoddau i gyflwyno'r cyflwyniadau a nodwyd ar gyfer Cam 2 yn unol â'r amserlen y cytunwyd arni. O ystyried yr angen i sicrhau cyllid y tu hwnt i weithgareddau Cam 2, nid yw'r amserlen ar gyfer cyflwyniadau Cam 3 wedi'i chytuno ar hyn o bryd. 

Yn unol â'n canllawiau, cynhaliodd yr ymgeisydd hunanasesiad ac adolygiad o'i barodrwydd ei hun i symud ymlaen i Gam 2. Cynhaliodd yr ymgeisydd hefyd adolygiad o'i allu fel sefydliad a dadansoddiad o'r bylchau yn ei gyflwyniadau arfaethedig i gefnogi Cam 2, fel rhan o'i achos E3S ehangach, yn erbyn disgwyliadau rheoleiddio. Rydym o'r farn bod y broses a ddilynwyd gan yr ymgeisydd yn rhesymol, yn gymesur ac yn ddigon cadarn ar gyfer y cam hwn o'r GDA. Casgliad cyffredinol adolygiad parodrwydd yr ymgeisydd yw ei fod yn ystyried ei hun yn barod i ddechrau Cam 2, yn amodol ar gwblhau rhai camau gwella.
Mae'r camau gweithredu a nodwyd gan yr ymgeisydd yn cynnwys gwelliannau yn ei drefniadaeth, ei drefniadau a'i gapasiti a'i allu. Rydym yn fodlon bod y camau gweithredu a nodwyd yn adlewyrchu'n gywir ganlyniadau adolygiad parodrwydd yr ymgeisydd ac yn gyson â'n gwaith yn ystod y cam. Byddwn yn adolygu cynnydd ac yn dal yr ymgeisydd i gyfrif ar gyflawni'r camau hyn yn ystod Cam 2.

Crynhoir y manylion llawn ar gyfer sail y datganiad hwn yn ein Hadroddiad Crynodeb Cam 1 (cyf. [5]).

Yn gryno:

Mae'r ymgeisydd wedi cwblhau'r holl ofynion ar gyfer Cam 1 o'n canllawiau;
Mae'r rhyngweithio gyda'r ymgeisydd trwy gydol Cam 1 wedi bod yn broffesiynol ac adeiladol, ac rydym yn hyderus y bydd hyn yn parhau;
Mae'r ymgeisydd wedi gwneud cynnydd da wrth ddatblygu ei drefniadaeth a threfniadau i gefnogi'r GDA, gyda thystiolaeth glir o welliannau;
Mae'r cytundebau angenrheidiol i gyflawni'r GDA yn eu lle, neu wedi eu datblygu'n ddigonol ar gyfer y pwynt hwn yn y prosiect, gyda chynlluniau clir ar gyfer datblygiad pellach;
Mae'r ymgeisydd wedi dangos dealltwriaeth dda o'n disgwyliadau rheoleiddio ac mae'n hyderus y gellir bodloni'r rhain drwy ei gynllun a'i achos E3S;
Yn ystod Cam 1 rydym wedi gwella ein dealltwriaeth o gynllun generig y Rolls-Royce SMR ac achos E3S ac wedi defnyddio hyn i lywio ein gwaith cynllunio ar gyfer gweithgareddau asesu pellach; a
Rydym ni, a'r ymgeisydd, yn barod i symud ymlaen i Gam 2 y GDA.
Felly, ein casgliad yw y gall dyluniad y Rolls-Royce SMR symud ymlaen i Gam 2 y GDA.

Cyfeiriadau

  1. ONR, New Nuclear Power Plants: Generic Design Assessment Guidance to Requesting Parties, ONR-GDA-GD-006, Revision 0, October 2019
  2. Rolls-Royce SMR Limited, Master Document Submission Lists and Document List, SMR0001724, Rhifyn 7, Chwefror 2023. (Cyfeirnod cofnod: 2023/8388).
  3. Rolls-Royce SMR Limited, Rolls-Royce SMR Generic Design Assessment Scope, SMR0002183, Rhifyn 2, Ionawr 2023. (Cyfeirnod cofnod: 2023/7807).
  4. Rolls-Royce SMR Limited, GDA Step 2 Submission Schedule, 2 Chwefror 2023. (Cyfeirnod cofnod: 2023/8546).
  5. ONR, Project Assessment Report - Generic Design Assessment of the Rolls-Royce SMR – Step 1 Summary, ONRW-2019369590-1908, Diwygiad 0, Ebrill 2023 
Office for Nuclear Regulation Environment Agency Natural Resources Wales