Skip to content

Trawsfynydd – Inspection ID: 50867

Executive summary

  • Inspection date(s): 4/10/22

Aim of inspection

To gain assurance that both the rate of production of radioactive waste, and the amount of radioactive waste on licensed nuclear sites is minimised and at all times adequately controlled.

Subject(s) of inspection

The following actives were the subject of this inspection:
  • LC32 - Accumulation of radioactive waste - Rating - Green

Key findings

This inspection examined the adequacy of Magnox Limited’s (ML) arrangements and their implementation on the Trawsfynydd site for compliance with Licence Condition 32 (Accumulation of Radioactive Waste). LC 32 requires the licensee to make and implement adequate arrangements for minimising so far as is reasonably practicable the rate of production and total quantity of radioactive waste accumulated on the site at any time and for recording the waste so accumulated. I focussed on a cross site inspection of the implementation of arrangements to characterise, segregate, process and store radioactive waste at Trawsfynydd. This included proposed radioactive waste management strategies and their alignment with decommissioning strategies, and reference to primary implementation document PD-026 (Management of Waste) and supporting documents identified in Trawsfynydd’s compliance matrix (F-870). This inspection was completed alongside a planned LC7 inspection (IIS-50866) which sampled waste related events over the previous 12-month period. I utilised ONR guidance NS-INSP-GD-032 Revision 7; and NS-TAST-GD-024 Issue7.1 during my inspection. This inspection was conducted jointly with Natural Resources Wales (NRW) who were supported by the Environment Agency (EA).

Judgements made

LC 32 requires the licensee to make and implement adequate arrangements for minimising so far as is reasonably practicable the rate of production and total quantity of radioactive waste accumulated on the site at any time and for recording the waste so accumulated. I am satisfied that this inspection merits an IIS rating green (no formal action) against LC 32.

Crynodeb gweithredol

Pwrpas yr Arolygiad

Cael sicrwydd bod cyfradd cynhyrchu gwastraff ymbelydrol, a maint y gwastraff ymbelydrol ar safleoedd niwclear trwyddedig yn cael ei leihau ac ar bob adeg yn cael ei reoli'n ddigonol.

Pwnc(pynciau) yr Arolygiad

Roedd y gweithgareddau canlynol yn destun yr arolygiad hwn:
  • LC32 - Cronni gwastraff ymbelydrol - Gwyrdd

Prif Ganfyddiadau

Roedd yr arolygiad hwn yn edrych ar ddigonolrwydd trefniadau Magnox Cyfyngedig (ML) a'u gweithredu ar safle Trawsfynydd i gydymffurfio ag Amod Trwydded 32 (Cronni Gwastraff Ymbelydrol). Mae LC 32 yn ei gwneud yn ofynnol i'r trwyddedai wneud a gweithredu trefniadau digonol ar gyfer lleihau cyn belled ag sy'n rhesymol ymarferol y gyfradd cynhyrchu a chyfanswm maint y gwastraff ymbelydrol wedi'i gronni ar y safle ar unrhyw adeg ac ar gyfer cofnodi'r gwastraff sydd wedi'i gronni felly. Canolbwyntiais ar gynnal arolygiad traws-safle o'r gwaith o roi trefniadau ar waith i nodweddu, gwahanu, prosesu a storio gwastraff ymbelydrol yn Nhrawsfynydd. Roedd hyn yn cynnwys strategaethau rheoli gwastraff ymbelydrol arfaethedig a'u halinio gyda strategaethau dadgomisiynu, a chyfeirio at ddogfen weithredu sylfaenol PD-026 (Rheoli Gwastraff) a dogfennau ategol a nodwyd ym matrics cydymffurfio Trawsfynydd (F-870). Cwblhawyd yr arolygiad hwn ochr yn ochr ag arolygiad LC7 arfaethedig (IIS-50866) a samplodd ddigwyddiadau cysylltiedig â gwastraff dros y cyfnod blaenorol o 12 mis. Defnyddiais ganllawiau ONR NS-INSP-GD-032 Diwygiad 7; ac NS-TAST-GD-024 Rhifyn7.1 yn ystod fy arolygiad. Cynhaliwyd yr arolygiad hwn ar y cyd â Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) a gefnogwyd gan Asiantaeth yr Amgylchedd (EA).

Barnau a Wnaed

Mae LC 32 yn ei gwneud yn ofynnol i'r trwyddedai wneud a gweithredu trefniadau digonol ar gyfer lleihau cyn belled ag sy'n rhesymol ymarferol y gyfradd cynhyrchu a chyfanswm maint y gwastraff ymbelydrol wedi'i gronni ar y safle ar unrhyw adeg ac ar gyfer cofnodi'r gwastraff sydd wedi'i gronni felly. Rwy'n fodlon bod yr arolygiad hwn yn haeddu sgôr IIS wyrdd (dim gweithredu ffurfiol) yn erbyn LC 32.