Skip to content

Trawsfynydd - Inspection ID: 22-009

  • Site: Trawsfynydd
  • IR number: 22-009
  • Date: May 2022
  • LC numbers: N/A

Executive summary

Purpose of Intervention

ONR undertook this inspection to examine Magnox Limited’s arrangements for compliance with the Ionising Radiations Regulations 2017 (IRR17) for controlling exposures at the Magnox Limited Trawsfynydd site. This was one of a series of routine planned IRR17 inspections for 2022/23 in support of ONR’s Decommissioning Fuel and Waste (DFW) sub-division strategy (2020/261871) and DFW Inspection planning guidance (2020/917). The main provisions of IRR17 requires dutyholders to restrict exposures to ionising radiations so far as is reasonably practicable. The focus of this inspection was on the following IRR17 provisions:
  • General principles and procedures (regulations 5 to 13).
  • Arrangements for the management of radiation protection (regulations 14, 15 and 16).
  • Designated areas (regulation 17 to 20).
ONR provided an outline inspection scope (2022/25162) to enable the site to prepare for the inspection. The scope identified topics ONR expected to cover during the inspection and the information required prior to the inspection.

Interventions Carried Out by ONR

ONR inspected the Magnox Limited Trawsfynydd site to review compliance with the following legislation and relevant good practice (RGP):
  • IRR17, its related Approved Code of Practice (HSE Publication L121, second edition) and guidance and the implementation of those arrangements on the Nuclear Licensed Site.
  • Nuclear Industry Code of Practice on Changeroom Design, Operation and Maintenance (published by the Industry Radiological Protection Co-ordination Group (IRPCG) on behalf of the Nuclear Industry Safety Directors Forum (SDF) in July 2006.
The intervention comprised inspection of facilities on site including locations designated as Radiation Controlled Areas, interviews, meetings and discussions on documents provided as evidence of compliance with IRR17.

Key Findings, Inspector's Opinions and Reasons for Judgements Made

We sampled and reviewed the licensee’s arrangements against the IRR17 provisions listed in paragraph 2, and the implementation of those arrangements at the Trawsfynydd site. Based on the evidence sampled at the time of this inspection, it is our judgement that Trawsfynydd is implementing effective arrangements for compliance with the requirements of IRR17. We also highlighted opportunities for the licensee to improve consistency with published relevant good practice.

Conclusion of Intervention

I judged Trawsfynydd’s implementation of its IRR17 arrangements to be adequate (meets regulatory expectations) in the areas inspected.

Crynodeb gweithredol

Diben Ymyrryd

Cynhaliodd ONR yr arolygiad hwn i archwilio trefniadau Magnox Limited ar gyfer cydymffurfio â Rheoliadau Ymbelydredd Ïoneiddio 2017 (IRR17) ar gyfer rheoli amlygiadau ar safle Magnox Limited Trawsfynydd.Roedd hwn yn un o gyfres o arolygiadau IRR17 a gynlluniwyd yn rheolaidd ar gyfer 2022/23 i gefnogi strategaeth is-adran Datgomisiynu Tanwydd a Gwastraff ONR (DFW) (2020/261871) a chanllawiau cynllunio arolygu DFW (2020/917). Mae prif ddarpariaethau IRR17 yn ei gwneud yn ofynnol i ddeiliaid dyletswydd gyfyngu ar amlygiad i ymbelydredd ïoneiddio i'r graddau y mae hynny'n rhesymol ymarferol.Roedd yr arolygiad hwn yn canolbwyntio ar y darpariaethau IRR17 canlynol:
  • Egwyddorion a gweithdrefnau cyffredinol (rheoliadau 5 i 13).
  • Trefniadau ar gyfer rheoli diogelu ymbelydredd (rheoliadau 14, 15 ac 16).
  • Ardaloedd dynodedig (rheoliad 17 i 20).
Darparodd ONR gwmpas arolygu amlinellol (2022/25162) i alluogi'r safle i baratoi ar gyfer yr arolygiad.Fe wnaeth y cwmpas nodi pynciau yr oedd ONR yn disgwyl ymdrin â hwy yn ystod yr arolygiad a'r wybodaeth a oedd yn ofynnol cyn yr arolygiad.

Ymyriadau a Gynhaliwyd gan ONR

Fe wnaethONR arolygu'r safle Magnox Limited Trawsfynydd i adolygu cydymffurfiaeth â'r ddeddfwriaeth ganlynol ac arfer da perthnasol (RGP):
  • IRR17, ei God Ymarfer Cymeradwy cysylltiedig (Cyhoeddiad HSE L121, ail argraffiad) a chanllawiau a gweithredu'r trefniadau hynny ar y Safle Trwyddedig Niwclear.
  • Cod Ymarfer y Diwydiant Niwclear ar Ddylunio, Gweithredu a Chynnal a Chadw Ystafell Newid (a gyhoeddwyd gan Grŵp Cydgysylltu Diogelu Radiolegol y Diwydiant (IRPCG) ar ran Fforwm Cyfarwyddwyr Diogelwch y Diwydiant Niwclear (SDF) ym mis Gorffennaf 2006.
Roedd yr ymyriad yn cynnwys arolygu cyfleusterau ar y safle gan gynnwys lleoliadau a ddynodwyd yn Ardaloedd Ymbelydredd a Reolir, cyfweliadau, cyfarfodydd a thrafodaethau ar ddogfennau a ddarparwyd fel tystiolaeth o gydymffurfiad ag IRR17.

Canfyddiadau Allweddol, Barn yr Arolygydd a'r Rhesymau dros Ddyfarniadau a Wnaed

Gwnaethom samplu ac adolygu trefniadau'r trwyddedai yn ôl y darpariaethau IRR17 a restrir ym mharagraff 2, a gweithredu'r trefniadau hynny ar safle Trawsfynydd. Yn seiliedig ar y dystiolaeth a samplwyd ar adeg yr arolygiad hwn, ein barn ni yw bod Trawsfynydd yn gweithredu trefniadau effeithiol ar gyfer cydymffurfio â gofynion IRR17. Gwnaethom hefyd amlygu cyfleoedd i'r trwyddedai wella cysondeb ag arfer da perthnasol cyhoeddedig.

Casgliad yr Ymyrraeth

Barnais fod gweithrediad Trawsfynydd o'i drefniadau IRR17 yn ddigonol (yn bodloni disgwyliadau rheoleiddiol) yn y meysydd a arolygwyd.